Rhif y ddeiseb: P-06-1422

Teitl y ddeiseb: Diddymu’r terfyn cyflymder 20mya ar y TRA4076 yn Johnston, Sir Benfro

Geiriad y ddeiseb: Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn nodi y dylid “yn gyffredinol” eithrio ffyrdd dosbarth A a B.

 

Mae’r TRA4076 trwy Johnston, Sir Benfro, yn rhan o’r prif rwydwaith trefol sy’n cysylltu de ein sir â’r ysbyty a’r dref sirol. Mae’n glirffordd drefol heb unrhyw leoedd parcio ar y stryd, llwybrau troed ar y ddwy ochr a dwy groesfan i gerddwyr a reolir gan oleuadau. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros ostwng y terfyn cyflymder ar y darn hwn o’r ffordd i 20mya.


1.        Y cefndir

Yn 2019 sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried a ddylai 20mya ddod yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion y grŵp, gan gynnwys y dylid lleihau'r terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig – y rheini â goleuadau stryd heb fod yn fwy na 200 lath oddi wrth ei gilydd – o 30mya i 20mya.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chynllun peilot ar draws wyth cymuned,  gosododd Llywodraeth Cymru Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) ym mis Mehefin 2022. Cafodd y Gorchymyn drafft ei basio gan y Senedd ym mis Gorffennaf 2022, a daeth i rym ar 17 Medi 2023 pan roddwyd y newid ar waith.

Mae'r A4076 yn gefnffordd 9 milltir o hyd yn sir Benfro. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Rwydwaith Ffyrdd Strategol Cymru (y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd), ac mae’r gwaith rheoli o ddydd i ddydd wedi’i ddirprwyo i ddau asiant cefnffyrdd. Asiant Cefnffyrdd De Cymru sy’n gyfrifol am yr A4076.

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am weddill y rhwydwaith ffyrdd, lle mae'r rhan fwyaf o'r ffyrdd cyfyngedig yr effeithir arnynt gan y newid i'r terfyn cyflymder wedi'u lleoli.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Wrth baratoi ar gyfer rhoi’r terfyn cyflymder 20mya ar waith ar ffyrdd cyfyngedig, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar osod eithriadau i’r terfyn cyflymder rhagosodedig 20mya ar gyfer ffyrdd cyfyngedig (y ‘canllaw eithriadau’). Mae hwn yn atodiad i Gosod Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2009.

Bwriedir i’r canllawiau gael eu defnyddio gan awdurdodau priffyrdd i nodi lle y dylid gwneud eithriadau i’r terfyn cyflymder ffordd cyfyngedig newydd o 20 mya. Erys yr eithriadau hyn ar 30mya.

Bu amrywiaeth sylweddol o ran cymhwyso eithriadau ledled Cymru. Yn ôl dadansoddiad gan Ymchwil y Senedd, mae 3% o ffyrdd, yn ôl eu hyd, yn 30mya ac ar ôl y newid, mae amrywiaeth eang ledled Cymru. Er enghraifft, yn Abertawe, arhosodd 10.3% o'r rhwydwaith ffyrdd ar 30mya, o'i gymharu â 0.6% yn Sir Ddinbych. Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys ffyrdd cyfyngedig ac anghyfyngedig o 30mya, a chefnffyrdd a ffyrdd lleol, fel ei gilydd.

Yn dilyn ymateb cyhoeddus sylweddol i’r broses o roi’r polisi ar waith, ar 24 Ionawr, gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi adolygiad o'r ymagwedd at eithriadau. Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad fe’i gwnaed yn glir y byddai’n “ archwilio sut y caiff y canllawiau a roddir i awdurdodau priffyrdd eu cymhwyso wrth osod eithriadau i'r terfyn 20mya diofyn.”. Cafodd yr adroddiad terfynol o’r adolygiad ar yr eithriadau diofyn  ei gyhoeddi ar 24 Mai.

 

Ers hynny cafwyd Prif Weinidog newydd, a Gweinidog Trafnidiaeth newydd. Dywedodd Vaughan Gething AS, y Prif Weinidog newydd,  yn ystod ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth fod Llywodraeth Cymru wedi cael peth o’r ochr gyfathrebu yn anghywir o ran y polisi.

Wrth nodi ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yn y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates AS, er bod Llywodraeth Cymru yn “parhau i gredu mai 20 mya yw'r terfyn cyflymder cywir mewn mannau ger ysgolion, ysbytai, meithrinfeydd, canolfannau cymunedol, mannau chwarae ac mewn ardaloedd preswyl adeiledig”, mae'n “bwrw ymlaen â mireinio'r polisi”.

Nododd yr Ysgrifennydd Cabinet gynlluniaui ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau y ceir y cyflymder cywir ar y ffyrdd cywir. Mae hyn yn cynnwys adolygu sut mae ei ganllawiau i awdurdodau priffyrdd ar osod eithriadau i'r terfyn wedi'u cymhwyso. Er bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i hyn, gyda gwaith yn mynd rhagddo’n dda, dywedodd ei fod, bellach, wedi gofyn i’r adolygiad ddod i “gasgliad cyflym”, ac ymrwymo i gyhoeddi’r adroddiad.  

Mae’r llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet at y Cadeirydd ar y ddeiseb hon yn amlinellu’r dull o gynnal y broses adolygu.

Yn ôl data a gyhoeddwyd ar 6 Mehefin gan yr heddlu, ynghylch gwrthdrawiadau, mae nifer yr anafusion a gwrthdrawiadau wedi lleihau mewn ardaloedd 20mya a 30mya.

Gwnaeth y datganiad sy'n cyd-fynd â hynny, a gyhoeddwyd gan y Ysgrifennydd y Cabinet, amlygu bod anafiadau chwarter 4 2023 (Hydref i Ragfyr) ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng 218 o 681 yn 2022 i 463 yn 2023, y “ffigwr chwarterol isaf a gofnodwyd [mewn ardaloedd 20mya a 30mya]y tu allan i gyfnod pandemig Covid.”. 

3.     Camau gan Senedd Cymru

Tra bod y polisi 20mya wedi cael ei drafod yn helaeth ledled y Senedd, nid yw’n ymddangos bod y terfyn cyflymder ar yr A4076 yn Johnston, Sir Benfro wedi’i godi.

Yn fwy cyffredinol, mae’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried nifer o ddeisebau ar gyflymder o 20mya, yn fwyaf diweddar y ddeiseb fwyaf yn hanes y Senedd yn gwrthwynebu’r polisi, a gwrthddeiseb lai:

·         P-06-1407 Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya; a

·         P-06-1412 Rydym am i Lywodraeth Cymru gadw’r gyfraith 20mya ardderchog.

Ystyriwyd y naill a’r llall yng Nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau ar 22 Ebrill. Cyfeiriodd y Pwyllgor ddeiseb P-06-1407 ar gyfer Dadl yn y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 22 Mai.

Ar 17 Ebrill, gwrthododd y Senedd gynnig gan alw am wrthdroi’r polisi, yn lle hynny fe gytunodd ar welliant yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o’r angen i fireinio’r gweithrediad. Yn ystod y ddadl, awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet fod angen “sicrhau bod terfynau 20 mya yn cael eu targedu’n briodol” mewn mannau “lle mae plant a’r henoed mewn perygl”.

Fel y nodwyd uchod, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet nodi ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth, gan gynnwys y polisi 20mya, yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Ebrill 2024.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.